Share
Preview
Wythnos Addysg Oedolion 2020
Edrych yn ôl ar yr hyn yr ydym wedi’i gyflawni gyda’n gilydd

Mae’r pandemig coronafeirws wedi herio pawb ohonom i feddwl yn wahanol am sut ydym yn darparu a hyrwyddo dysgu gydol oes. Gan weithio gyda llu o bartneriaid gwerthfawr, cafodd yr ymgyrch Wythnos Addysg Oedolion ei haddasu i ymateb i’r heriau hyn a chafodd ei chyflwyno ar-lein ym mis Medi 2020.

Cafodd llwyfan ar-lein yr ymgyrch ei greu ar y cyd a’i lansio gyda’r gronfa fwyaf o adnoddau dysgu, cyrsiau, sesiynau blasu a sesiynau dosbarth meistr byw am ddim. Roedd y cyrsiau yn cynnwys sgiliau hanfodol a chyflogadwyedd, digidol, creadigol, iechyd a llesiant a chyfathrebu ac ieithoedd.

Atebodd partneriaid o bob rhan o Gymru yr alwad i gefnogi’r ymgyrch a chydweithio.
Adult Learners' Week 2020
We look back at what we achieved together
The coronavirus pandemic has challenged us all to think differently about how we deliver and promote lifelong learning. Supported by Welsh Government and working with our many valued partners, the Adult Learners’ Week campaign was adapted to respond to these challenges and was delivered online in September 2020.
The campaign online platform was co-created and launched with the largest bank of free learning resources, courses, bitesize tasters and live masterclass sessions. Courses covered essential and employability skills, digital, creative, health and wellbeing and communication and languages.

Partners from across Wales answered the call to support the campaign and collaborate.
 
Lansiwyd yr ymgyrch gan Sabrina Cohen-Hatton, Llysgennad yr Ymgyrch, ac roedd ei sesiwn Facebook Byw yn cynnig cyngor da ar gyfer Newid dy Stori.
Campaign Ambassador Sabrina Cohen-Hatton launched the campaign and her Facebook Live session offered top tips for Changing Your Story.
 
Arian i Bawb

Gweithio gyda dros 180 o ddarparwyr i gyrchu adnoddau dysgu


Dros 500 o adnoddau wedi cofrestru i’r llwyfan
Cymerodd dros 10,000 ran mewn dosbarthiadau meistr a chyrsiau byw
138k edrychiad tudalen a dros 2.5k o ddefnyddwyr wedi glanio ar lwyfan yr Wythnos Addysg Oedolion

15,795,506 cyfle i weld gwybodaeth am yr ymgyrch

Dros 12.5k cysylltiad ar draws cyfryngau cymdeithasol
23 darn o sylw gydag erthyglau ar bethau tebyg i ITB Cymru, FE News, Cardiff TV a Heno yn sicrhau              cyrraedd o dros 774k

14,423,477 argraff ar draws pob sianel
Campaign highlights
We partnered with over 180 providers  to source learning resources

Over 550 learning resources were registered to the platform
Over 10,000 participants took part in live masterclasses and courses
138k page views and over 2.5k users landed on the Adult Learners’ Week platform
There were 15,795,506 opportunities to see information about the campaign

Over 12.5k engagements across social media
23 pieces of coverage was featured in titles such as ITV Wales, FE News, Cardiff TV and Heno gained a reach of over 774k

14,423,477 impressions across all channels

 
Adborth gan ddarparwyr a dysgwyr
Feedback from learners and providers
Mae’r Wythnos Addysg Oedolion wedi rhoi hyder i fi ddechrau ar rywbeth newydd, doeddwn i erioed wedi meddwl y gallwn wneud rhywbeth.

Cefais fy ysbrydoli yn fy sesiwn flasu ar-lein heddiw ac fe wnes gofrestru am ddosbarth ar-lein wythnosol i ddechreuwyr. Rwy’n credu fod y gwersi hyn yn wych ar gyfer dysgu sgiliau newydd, da i lesiant a rhywbeth rwy’n edrych ymlaen ato bob wythnos.

Roedd yn braf cael sesiynau tiwtorial bach i’w gweld adref yn ystod y cyfnod clo, mae wedi rhoi dechrau da i fi gyda hobi newydd.

Mae’n gyfle gwych os yw pobl eisiau ymuno o wledydd eraill - am syniad da, am brofiad gwych i’r dysgwyr oedd yn rhan o’r dosbarth hwnnw, gan agor amrywiaeth a gwahanol ddiwylliannau.


Rhoddodd yr Wythnos Addysg Oedolion gyfle i diwtoriaid weld eu stwff yn cael eu harddangos, rhoddodd hwb hyder iddynt.


Adult Learners’ Week has given me the confidence to start something new, I never thought I could be capable of doing it before.

After my online taster session I was inspired and signed up for the weekly beginners online class. I think these lessons are great for learning new skills, good for wellbeing and something I look forward to each week.

It was nice to have mini tutorials to access at home during lockdown. It has given me a kickstart with a new hobby.

It’s a great opportunity if people join from other countries – what a great idea, what a wonderful experience for the learners who were part of that class, opening up diversity and different cultures.

Adult Learners’ Week gave tutors a chance to see their stuff showcased, it gave them a confidence boost.
 
Cyfres podlediadau newid dy stori
Change your story podcast series
Fe wnaethom gynhyrchu pump podlediad ar themâu penodol gyda Nia Parry, cyflwynydd teledu a thiwtor. Roedd pob pennod yn canolbwyntio ar gyrsiau gyda phobl sy’n ysbrydoli sy’n ennill cymwysterau a dysgu sgiliau newydd yn nes ymlaen mewn bywyd.

Gallwch weld yr holl benodau ar wefan yr ymgyrch.

We produced five themed podcasts which were hosted by TV presenter and tutor Nia Parry. Each episode focused on conversations with inspirational people who are gaining qualifications and learning new skills later in life.

You can catch up on the episodes via our campaign website.

 
Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion
Inspire! Adult Learning Awards
Buom yn dathlu Gworbrau Ysbrydoli! ym mis Medi gyda ffilmiau a gyhoeddwyd drwy lwyfannau cyfryngau cymdeithasol Llywodraeth Cymru a’r Sefydliad Dysgu a Gwaith. Gwobrwywyd 12 o enillwyr ysbrydoledig am eu campau rhyfeddol mewn dysgu a sgiliau a rydym wedi parhau i weithio gydag enillwyr gwobrau i alluogi eu lleisiau gael eu clywed drwy ein digwyddiadau ar-lein a’n cyfres podlediadau.

Gallwch weld eu
straeon yma.

Aeth prif wobr Dysgwr y Flwyddyn i ….
Emma Williams

The Inspire! Awards were celebrated in September with films released through Welsh Government and L&W social media platforms. We awarded 12 inspiring winners for their remarkable achievements in learning and skills and we’ve continued to work with award winners to enable their voices to be heard through our online events and podcast series.

View their stories here.

The Adult Learner of the Year went to….
Emma Williams

 
Gorffennodd Emma ei radd israddedig mewn Gwyddoniaeth Fforensig a TAR, ac mae wrthi’n cwblhau MRes mewn Anthropoleg Fforensig a Bioarchaeoleg.

Cafodd Emma broblemau gyda’i iechyd meddwl a bod yn gaeth i gyffuriau, roedd yn ddigartref yn ei harddegau. Wyth mlynedd wedyn aeth ar wahanol gyrsiau cyflogadwyedd i’w helpu i fynd yn ôl ar ei thraed. Dros y pum mlynedd nesaf dechreuodd ar radd mewn Gwyddoniaeth Fforensig, TAR a chwblhau MRes mewn Anthropoleg Fforensig a Bioarchaeoleg ym Mhrifysgol Glyndŵr yn Wrecsam. Ar ôl cymhwyso fel athrawes, bu’n dysgu Gwyddoniaeth Fforensig i israddedigion ac mae’n awr yn gyfathrebydd gwyddoniaeth ar gyfer Techniquest yn y Gogledd, gan weithio fel model rôl ar gyfer merched mewn pynciau STEM. Bu Emma’n gweithio fel gweithiwr allweddol a gwirfoddolwraig yn ystod y pandemig.

Dywedodd Emma
Dywedwyd wrthym na fyddwn yn byw yn fwy na 30 oed os byddwn yn parhau i fyw fy mywyd fel yr oeddwn. Os gallaf ysbrydoli o leiaf un person neu ddangos i rywun sydd mewn trafferthion y gallwch newid eich bywyd drwy addysg, yna mae’r cyfan ei werth o.


Emma completed her undergraduate degree in Forensic Science and a PGCE, and is in the process of completing an MRes in Forensic Anthropology and Bioarchaeology.

Emma experienced problems with her mental health and addiction and found herself homeless in her teens. Eight years later she took various employability courses to help her get back on track. Over the next five years she embarked on a degree in Forensic Science, a PGCE and is completing an MRes in Forensic Anthropology and Bioarchaeology at Wrexham Glyndwr University. After qualifying as a teacher, she taught on the undergraduate Forensic Science degree and is now a science communicator for Techniquest in North Wales, working as a role model for females in STEM subjects. During the pandemic, Emma has been working as a key worker and a volunteer.

Emma said
I was told I wouldn’t live past 30 if I continued to live my life like I did. Yet I know so many people who have been through worse. If I can inspire at least one person or show someone who is struggling, that you can change your life through education, then it’s all worth it.

 
Y wasg a’r cyfryngau
Campaign press and media
 
Cyhoeddiad Dyddiad:
Wythnos Addysg Oedolion 2021
Mewn ymateb i’r ansicrwydd parhaus am y pandemig coronafeirws a’r adferiad, rydym wedi penderfynu cynllunio cynnal yr Wythnos Addysg Oedolion ym mis Medi 2021. Mae hyn yn rhoi’r posibilrwydd o weithio gyda phartneriaid i gyflwyno dull cyfunol a all ganiatáu peth gwaith allestyn gyda ffocws parhaus ar hyrwyddo dysgu gydol oes.

Bydd yr Wythnos Addysg Oedolion ar 20-26 Medi a chaiff ei hyrwyddo ar draws y mis.

Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion

Mae ein cyhoeddiad ar y dyddiad newydd ar gyfer yr Wythnos Addysg Oedolion wedi effeithio ar y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau ar gyfer Gworau Ysbrydoli! Addysg Oedolion.

Galwn am i enwebiadau gael eu cyflwyno erbyn 22 Mawrth 2021.

Mae pawb ohonom angen straeon newyddion da, ac er yr heriau, gofynnwn i chi feddwl am bopeth y gallwch ei wneud am wneud enwebiadau rhannu straeon am eich dysgwyr gwych.

Cylchredwch ein taflen i’ch rhwydweithiau, cydweithwyr a ffrindiau os gwelwch yn dda. Rydym yn edrych am unigolion, teuluoedd, prosiectau a sefydliadau y mae eu llwyddiant yn dysgu wedi eu harwain i drawsnewid eu bywydau a bywydau pobl eraill a chael profiad cadarnhaol o addysg oedolion - tebyg i ddatblygu sgiliau, gwella rhagolygon gyrfa a gwella llesiant.

Mae mwy o angen dysgu gydol oes nag erioed o’r blaen wrth i ni sicrhau adferiad o’r pandemig a byddwn angen i fwy o bobl ar draws Cymru gael eu hysbrydoli i gymryd rhan yn eu cymunedau, datblygu sgiliau ar gyfer ffyrdd newydd o weithio a diogelu eu hiechyd a’u llesiant.

Ewch i’n gwefan i gael mwy o wybodaeth a dolenni i’n canllawiau a ffurflen enwebu.

Os hoffech fwy o wybodaeth am yr Wythnos Addysg Oedolion anfonwch e-bost at
alwevents@learningandwork.org.uk

Cydlynir Wythnos Dysgwyr Oedolion mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.
Date announcement:
Adult Learners’ Week September 2021

In response to the ongoing uncertainty around the coronavirus pandemic and our recovery, we have made the decision to plan for Adult Learners’ Week to take place in September 2021. This provides a possibility of working with partners to deliver a blended approach which may allow for some community based outreach with a continued focus on promoting online learning.

Adult Learners’ Week will be 20 – 26 September with promotion across the month.

Inspire! Adult Learning Awards

Our announcement on the new date for Adult Learners’ Week has impacted on the deadline for nominations for the Inspire! Adult Learning Awards.

We are calling for nominations to be submitted by 22 March 2021.

We are all in need of good news stories, and despite the challenges please do all you can to think about making nominations and sharing the stories of your amazing learners.

Please circulate our flyer out to your networks, colleagues and friends. We are looking for individuals, families projects and organisations whose learning achievements have led them to transform their lives and the lives of others and gained a positive experience of adult learning - such as the development of skills, increased career prospects and improved wellbeing.

Lifelong
learning is needed more than ever as we recover and we will need more people across Wales to be inspired to engage in their communities, develop skills for new ways of working and protect their health and wellbeing.


Visit
our website for more information and links to our guidance and nomination form.

If you would like more information about Adult Learners’ Week please email alwevents@learningandwork.org.uk

Adult Learners’ Week is coordinated in partnership with the Welsh Government.
 
Cysylltu L&W Caerlŷr (+44) 0116 204 4200 | Llundain (+44) 020 7582 7221 | Caerdydd (+44) 0292 037 0900
Contact L&W Leicester (+44) 0116 204 4200 | London (+44) 020 7582 7221 | Cardiff (+44) 0292 037 0900
 
 
Sefydliad Dysgu a Gwaith
Learning and Work Institute Wales

Cwmni cyfyngedig trwy warant Rhif cofrestu 2063322 Rhif cofrestru elusen 1002775
A company limited by guarantee registered no. 2603322 and registered charity no. 1002775
Cyfeiriad cofrestredig: 4th Floor, Arnhem House, 31 Waterloo Way, Caerlŷr, LE1 6LP
Registered address: 4th Floor, Arnhem House, 31 Waterloo Way, Leicester, LE1 6LP

Email Marketing by ActiveCampaign